P-05-885 Trafnidiaeth Gyhoeddus Hygyrch a Chynhwysol ar gyfer Dinasyddion ag Anableddau Dysgu yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Joe Powell, ar ôl casglu cyfanswm o 203 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

​​         

Rydym yn galw ar i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pob awdurdod lleol yn ymgynghori â phobl ag anableddau dysgu cyn gwneud unrhyw newidiadau i wasanaethau bysiau/llwybrau bysiau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys newidiadau i safleoedd bysiau.

 

Rydym hefyd yn galw ar i Lywodraeth Cymru ehangu'r Cerdyn Teithio Rhatach i gynnwys gwasanaethau rheilffordd lleol mewn ardaloedd lle nad oes llawer o wasanaethau bysiau. Mae'r mesurau hyn yn hanfodol os ydym am i bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru beidio â chael eu hynysu yn y gymdeithas, ac os ydym am eu galluogi i fyw fel dinasyddion gweithgar a chydradd a chanddynt fynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen i gyflawni eu canlyniadau llesiant eu hunain, fel y'u hyrwyddir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Dwyrain Casnewydd

·         Dwyrain De Cymru